Y Ddinas ar y Traeth
Rydym yn ymfalchïo bod Abertawe yn Ddinas y Traeth; dinas sydd â rhywbeth unigryw i'w gynnig, lle mae'r awyr agored ar garreg y drws. Amser braf ar y dŵr ac wrth ymyl y dŵr. Ehangder yr awyr a golygfeydd o gopaon mynyddoedd. Tywod rhwng bysedd eich traed ac amser cinio ar y traeth.
Yn gryno, mae'n fodel o ddinas ardderchog i fyw ynddi. Lle mae ansawdd bywyd, iechyd a llesiant, tegwch, a ffyniant cyffredin yn gwneud y Ddinas yn fan gwych i fyw ynddi, i weithio a chynnal busnes ynddi, ac i ymweld â hi a'i mwynhau.
Y Safleoedd Strategol
Mae ein cytundeb partneriaeth 20 mlynedd â Chyngor Dinas Abertawe yn dechrau gyda saith safle strategol. Mae'r gwaith o adfywio pob safle yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth, a gyda'i gilydd bydd y rhain yn creu naratif ehangach sy’n uno Abertawe.
Gadewch i ni gyflwyno'r tri safle cyntaf i chi:

Glannau'r Ddinas
Cyrchfan o safon fyd-eang ac ardal glan môr ddinesig newydd ar gyfer Abertawe, lle mae'r ddinas yn cwrdd â'r traeth.
Bydd prosiect arfaethedig Glannau'r Ddinas yn cynnwys cyrchfan newydd sbon ar lan y dŵr i drigolion ac ymwelwyr ymgynnull, ymlacio a mwynhau golygfeydd godidog Bae Abertawe. Gan eistedd ar ben draw Ffordd i’r Môr, sydd newydd gael ei chreu, ac yn cysylltu canol y ddinas a'r Arena yn uniongyrchol â’r traeth, bydd adeilad y Ganolfan Ddinesig, sydd wedi’i ailddyfeisio a’i addasu, yn ganolbwynt bywiog i'r ardal newydd, ac yn cynnwys mannau i fwyta, yfed a chael eich diddanu, gan gynnwys 150,000 troedfedd sgwâr o ofod masnachol a hyd at 600 o gartrefi. Bydd caffis, barrau a siopau newydd ar y lloriau gwaelod, gyda fflatiau, gofod gweithio, acwariwm, gwesty a gofod digwyddiadau i gyd yn rhan o’r gymysgedd hefyd. Bydd yn lle unigryw ble mae’r ddinas wir yn cwrdd â’r traeth

Porth Copr
Swyddfa fodern a champws dysgu. Yng nghanol dinas fywiog. Ychydig funudau o'r traeth.
Wedi’i ddylunio gan benseiri blaenllaw yn y DU, bydd cynllun arfaethedig Porth Copr yn dod â 300,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa Gradd A newydd a gofod masnachol defnydd cymysg i ganol Abertawe mewn cyfres o adeiladau unigryw wedi’u clystyru o amgylch mannau gwyrdd newydd heddychlon sy’n edrych dros eglwys hanesyddol yng nghanol y ddinas. Bydd sefydliadau addysg a gofod ar gyfer gwneuthurwyr creadigol hefyd yn rhan o’r gymysgedd, ochr yn ochr â chaffis a bwytai sy’n ystlysu’r llwybr i Arena Abertawe, a phob un o fewn taith gerdded pum munud o’r traeth.

Glan Afon St Thomas
yn creu cymdogaeth newydd ar lan yr afon, lle mae cartrefi, mannau gwaith a mannau gwyrdd yn sefyll ochr yn ochr â’r afon.
Bydd ein datblygiad yn Glan Afon St Thomas yn darparu 124 o gartrefi o ansawdd dylunio rhagorol, gan gynnwys darpariaeth 50% fforddiadwy - wedi’i ddarparu fel cymdogaeth glan afon newydd werdd a chynaliadwy iawn yn St Thomas. Rhan allweddol o’r cynigion yw agor a gwella mynediad at lan yr afon, gan greu amgylchedd mwy deniadol a bioamrywiol ar gyfer trigolion newydd a’r gymuned ehangach.

Gwaith Copr Hafod
Cyrchfan sy’n cael ei harwain gan dreftadaeth a hamdden yng nghanol cymdogaeth defnydd cymysg ar lan yr afon.
Mae Cyngor Abertawe ac Urban Splash yn datblygu fframwaith gofodol strategol newydd a gweledigaeth ddatblygu ar gyfer y safle hanesyddol hardd hwn ar lannau Afon Tawe, yn agos at stadiwm Swansea.com a Pharc Manwerthu Morfa. Mae’r cynllun yn nodi amrywiaeth o leiniau datblygu a chyfleoedd ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau a meddianwyr hyblyg – masnachol a phreswyl – i ategu’r miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat sydd eisoes yn mynd i’r safle. Mae cyllid Codi’r Gwastad sylweddol yn dod â bywyd newydd i’r adeiladau treftadaeth presennol, ochr yn ochr ag atyniadau hamdden newydd a chyffrous sy’n arwain y byd, gan gynnwys Distyllfa a Chanolfan Ymwelwyr Penderyn a agorwyd yn ddiweddar. Cyfuniad o'r hen a newydd, cyffro ac ymlacio, lleol a rhyngwladol.
Lawrlwythiadau
Urban Splash Newsplash
Eisiau cael gwybod am yr holl bethau sy'n digwydd yn Abertawe? Yna cofrestrwch ar gyfer Newsplash!
Anfonir ein crynodeb newyddion misol gyda'r newyddion diweddaraf a mwyaf ffres am greu lleoedd, tai, gweithleoedd, pensaernïaeth, digwyddiadau a gyrfaoedd yn syth i'ch mewnflwch.