Dinas ar y Traeth
Adfywio’r Ganolfan Ddinesig
Croeso i’n gweledigaeth ar gyfer Canolfan Ddinesig Abertawe.
Dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2017 Rhan 1A Adran 2B, mae’n ofynnol i’r rhai sy’n cynnig datblygiadau mawr ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd a chyrff cymunedol a statudol cyn cyflwyno’u cais cynllunio i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Ers i ni gael ein penodi gan Gyngor Abertawe fel rhan o bartneriaeth adfywio strategol 20 mlynedd, rydym wedi bod yn ystyried posibiliadau ar gyfer ailddatblygu saith safle yn y ddinas, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig ar Heol Ystumllwynarth.
Mae adfywio’r Ganolfan Ddinesig yn gam pwysig yn nhrawsnewidiad parhaus y ddinas.
Byddi ein gweledigaeth ar gyfer Canolfan Ddinesig Abertawe yn ailddefnyddio’r adeilad presennol yn ei gyfanrwydd, gan ddod â bywyd newydd iddo fel man bywiog, defnydd cymysg gyda chaffis, bariau, a siopau newydd ar y llawer gwaelod yn agor allan i lan y môr, ynghyd â fflatiau, man gweithio, acwariwm, man ar gyfer digwyddiadau yn ogystal â chreu 138 o gartrefi newydd.
Mae gwahoddiad i chi wneud sylwadau am ein cynigion cyn i ni gyflwyno’r cais cynllunio ffurfiol.
Mae’n bwysig nodi bod yr ymarfer hwn yn holl ar wahân i’r ymgynghoriad statudol y bydd Cyngor Abertawe yn ei gynnal unwaith y mae’r cais cynllunio wedi’i gyflwyno. Ni fydd y broses bresennol yn eich atal rhag gwneud sylwadau yn y dyfodol ac os dymunwch wneud hynny, gallwch gyflwyno sylwadau pellach yn uniongyrchol i’r Cyngor ar yr adeg honno, i’w hystyried gan Gyngor Abertawe.

Sut i Gynnig Sylwadau
Rydym yn gwahodd y cyhoedd i rannu eu safbwyntiau ar ein cynlluniau ar gyfer Canolfan Ddinesig.
Os hoffech gyflwyno sylwadau ar y cynigion presennol, anfonwch e-bost at:
consultation@urbansplash.co.uk gallwch hefyd gyflwyno eich sylwadau’n ysgrifenedig i:
Urban Splash
Timber Wharf
16-22 Worsley Street
Castlefield
Manchester
M15 4LD
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 28ain Gorffennaf 2026 – efallai na fydd sylwadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.
Bydd dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd ac unrhyw newidiadau i’r cynllun yn cael eu hadrodd yn yr adroddiad ymgynghori cyn ymgeisio, a gyflwynir fel rhan o’r cais cynllunio.
Rydym yn cynnal arddangosfa o’n cynlluniau ddydd Mercher 8fed dydd 12pm - 6:30pm a Iau 9fed Gorffennaf 9am - 4:30pm yn hwb gwasanaethau cymunedol newydd y ddinas, Y Storfa.