Ymgynghoriad Porth Copr
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Ar y dudalen hon, cewch fanylion am ein cynlluniau newydd ar gyfer datblygu 7 Porth Copr, sef adeilad defnydd cymysg newydd sy'n rhan o uwchgynllun Porth Copr. Rydym ni wedi datblygu'r cynigion camau cynnar hyn fel rhan o'n partneriaeth adfywio strategol 20 mlynedd gyda Chyngor Abertawe, sy'n nodi cam arall yn y gwaith sy'n mynd rhagddo i drawsnewid canol dinas Abertawe a thu hwnt.

Mae ein cynigion yn cynnwys adeilad newydd ar safle hen Ganolfan Siopa Dewi Sant. Bydd 7 Porth Copr yn adeilad defnydd cymysg gyda chaffis, bwytai, ac ardaloedd hamdden ar y llawr gwaelod ac iard newydd, yn ogystal â 57 o dai fflatiau un a dwy ystafell ar y lloriau uwch.
Gallwch lawrlwytho'r byrddau yma sy'n rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch.
- Y tîm y tu ôl i ddylunio a chyflawni'r adeilad, sy'n cynnwys y bartneriaeth rhwng Urban Splash a Chyngor Abertawe
- Sut y mae'r adeilad hwn yn gweddu ag uwchgynllun Porth Copr ac adfywio ehangach y ddinas
- Manylion y dyluniad a'r adeilad ei hun
Rydym ni'n gobeithio y bydd y cynlluniau yn eich plesio. Os hoffech rannu unrhyw adborth gyda ni ynghylch ein cynigion, cysylltwch â ni ar consultation@urbansplash.co.uk.